Cwestiynau a ofynnir yn Aml
Rôl yr Arolygiaeth Gynllunio
Sut a Phwy ddylwn gysylltu â hwy yn yr Arolygiaeth Gynllunio
Gwybodaeth am Apeliadau Cynllunio
Cynllun Iaith Gymraeg yr Arolygiaeth Gynllunio
Cwestiynau am y Wefan
Cwestiynau Eraill
Cwestiynau am Faes Busnes
Rôl yr Arolygiaeth Gynllunio
Beth yw cyfrifoldebau fy Awdurdod Cynllunio Lleol (LPA),
ac nid yr Arolygiaeth Gynllunio?
Os nad ydych yn siwr pa un a oes angen caniatâd cynllunio arnoch i wneud rhywbeth ai peidio, megis troi nenlofft neu osod sied fawr yn yr ardd, dylech ofyn i'ch cyngor. Dim ond os gwneir apêl y gall yr Arolygiaeth ddod yn rhan o'r mater.
Unwaith y bydd penderfyniad apêl wedi ei ganiatáu, mae'r cyfrifoldeb drosto yn mynd yn ôl i'r cyngor lleol. Os credwch nad oes rhywbeth a ganiatawyd gan apêl yn cael ei adeiladu yn gywir, neu bod yr amodau a osodwyd gan yr Arolygydd yn cael eu hanwybyddu, yna dylech gyfeirio'r cwynion hyn i'ch cyngor lleol. Nid oes dim y gall yr Arolygiaeth ei wneud yn yr achosion hyn.
Mae'n debygol iawn y bydd gan eich cyngor lleol wefan, a gellir dod o hyd i gysylltiadau â phob gwefan cyngor trwy ddefnyddio’r linc “Nodwch eich awdurdod lleol”
A all yr Arolygiaeth Gynllunio ymyrryd mewn materion
cynllunio lleol?
Ni all yr Arolygiaeth ymwneud â materion cynllunio lleol. Dim ond mewn achos apêl y byddwn yn ymwneud â mater cynllunio lleol. Os ydych yn bryderus bod eich cyngor lleol yn mynd i ganiatáu (neu wedi caniatáu) rhywbeth yr ydych yn ei wrthwynebu, dylech drafod y mater gyda hwy. O bryd i'w gilydd, gall fod yn bosibl i'r Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol ymyrryd. Dylid cyfeirio'r cwestiynau hyn at Adran Gynllunio Cynulliad Cenedlaethol Cymru Fodd bynnag, dim ond os bydd y datblygiad yn debygol o achosi goblygiadau mawr, yn rhanbarthol neu'n genedlaethol, y byddant yn ystyried ymyrryd.
Sut a Phwy ddylwn gysylltu â hwy yn yr Arolygiaeth Gynllunio?
Sut y gallaf i gysylltu â'r Arolygiaeth Gynllunio?
Os oes gennych apêl sy'n cael ei hystyried ar hyn o bryd, dylai fod gennych enw cyswllt a rhif penodol eisoes, fe'u dangosir ar ein llythyrau. Os nad oes gennych apêl gyda ni, a bod angen mwy o wybodaeth gyffredinol neu gymorth arnoch, cysylltwch â:
Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Teleffon: 029 2082 3866
Ffacs: 029 2082 5150
Ebost: wales@planning-inspectorate.gsi.gov.uk
Os yw eich ymholiad yn ymwneud ag apêl yn Lloegr cysylltwch ein gwasanaethau Uned Cymorth Cwsmeriaid a Llinell Gymorth Cwsmeriaid newydd (Link) . Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu un pwynt cyswllt ar gyfer pob un o'n gwasanaethau yn Lloegr.
Sut y gallaf wneud cwyn?
Gweler Delio â
Chwynion am wybodaeth bellach.
Sut y byddaf yn mynd ati i wneud sylwadau ar faterion
polisi cynllunio?
Mae'r Arolygiaeth yn gyfrifol am weithredu o fewn y polisïau a nodir gan y llywodraeth. Os oes gennych gwestiwn am y polisi ei hun, megis a ddylai mwy o dai gael eu hadeiladu ar safleoedd tir llwyd, neu a yw polisïau yn gynaliadwy ai peidio, byddai'n well i chi gysylltu â Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Sut y gallaf wneud sylwadau ar y gwaith y mae'r Arolygiaeth wedi'i gwblhau?
Os ydych wedi codi mater gyda ni, ac nid ydych yn fodlon â'r ymateb, ac y teimlwch eich bod wedi ystyried pob dull o gwyno sydd ar gael i chi, gallwch fynd â'ch mater gerbron Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Gall yr Ombwdsmon ymchwilio i'ch cwynion a gofyn i'r Arolygiaeth roi iawndal os yw'n dyfarnu bod ein camgymeriad wedi peri cost ddiangen i chi. Fodd bynnag, ni all ymyrryd mewn penderfyniad cynllunio, na gofyn iddo gael ei ailystyried mewn unrhyw ffordd.
Gwybodaeth am Apeliadau Cynllunio
Mae fy apêl yn mynd yn ei blaen drwy ddull cynrychioliadau ysgrifenedig yr apeliadau cynllunio. Am faint o amser y gallaf ddisgwyl aros cyn bod yr Arolygydd yn ymweld â safle'r apêl?
Ein nod yw bod yr ymweliad â'r safle yn digwydd o fewn 10 wythnos o'r dyddiad y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol ein bod wedi derbyn yr holl ddogfennau sydd eu hangen.
Mae fy apêl yn mynd yn ei blaen drwy ddull gwrandawiadau yr apeliadau cynllunio. Am faint o amser y gallaf ddisgwyl aros am ddyddiad ar gyfer y gwrandawiad?
Ein nod yw bod y gwrandawiad yn digwydd o fewn 10 wythnos o'r dyddiad y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol ein bod wedi derbyn yr holl ddogfennau sydd eu hangen.
Mae fy apêl yn mynd yn ei blaen drwy ddull ymchwiliad yr apeliadau cynllunio. Am faint o amser y gallaf ddisgwyl aros am ddyddiad ar gyfer y gwrandawiad?
Ein nod yw bod yr ymchwiliad yn digwydd o fewn 14 wythnos o'r dyddiad y rhoddwyd hysbysiad ysgrifenedig i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol ein bod wedi derbyn yr holl ddogfennau sydd eu hangen.
A gyhoeddir penderfyniadau apêl ar y safle?
Nid yw penderfyniadau apêl yn cael eu cyhoeddi ar y safle.
Os wyf yn anfodlon â phenderfyniad fy Awdurdod Cynllunio Lleol (LPA), beth y gallaf ei wneud?
Weithiau, ar ôl gwneud cwyn i'ch cyngor lleol am ddatblygiad nad yw'n gweithredu yn unol â'r amodau a nodwyd ar y caniatâd yn eich barn chi, neu nad oes angen caniatâd o gwbl arno, bydd y cyngor yn penderfynu gwneud dim. Eto, mater i'r cyngor yn unig yw hwn. Ni all yr Arolygiaeth blismona'r system gynllunio. Fodd bynnag, os nad ydych yn hapus gyda'ch cyngor, a'ch bod wedi dwyn hyn i'w sylw, a'u bod wedi gwneud dim, gallwch gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Link).
A oes dull penodol o gynnal Ymchwiliadau?
Oes, mae gwybodaeth am gynnal Ymchwiliadau (Link) ar gael.
Oes yna Côd Ymddygiad Arolygwyr?
Ydy, Mae'r Cod Ymddygiad Arolygwyr (Cyswllt) ar gael yn ogystal â'r canllawiau isod.
Gwrthdaro Buddiannau
Mae'r angen i Arolygwyr weithredu mewn ffordd deg, agored a diduedd, wrth gwrs, yn hollbwysig i uniondeb y broses apelio. Ymdrinnir â phob apêl yn ôl ei rhinweddau ei hun ac ni ddylai Arolygwyr ymgymryd ag unrhyw waith y mae ganddynt fuddiant ariannol neu bersonol ynddo a allai achosi iddynt fod yn bleidiol. Hefyd, ni ddylai Arolygwyr ymgymryd ag unrhyw waith achos, yn cynnwys gwaith yn ymwneud â'r cynllun datblygu lle byddai person teg ei feddwl, sy'n gwybod y cefndir, yn ystyried bod posibilrwydd gwirioneddol o duedd. Mae'r canllawiau canlynol yn anelu at osgoi gwrthdaro buddiannau gwirioneddol neu ganfyddedig.
Ni ddylai Arolygwyr Cyflogedig ymgymryd ag unrhyw achosion:
i. yn yr ardal ACLl y mae'r Arolygydd Cyflogedig yn byw ynddi,
ii. lle mae'r Arolygydd yn cynnal, neu'n cyflwyno adroddiad ar ymchwiliad i gynllun datblygu neu Archwiliad Cyhoeddus
iii. os oes gan yr Arolygydd briod/partner sy'n gweithio yn yr ACLl.
Ni ddylai Arolygwyr y Telir Ffi iddynt/Arolygwyr Ymgynghorol ymgymryd ag unrhyw achosion:
i. yn yr ardal ACLl y mae'r Arolygydd yn byw ynddi,
ii. lle mae'r Arolygydd yn cynnal, neu'n cyflwyno adroddiad ar ymchwiliad i gynllun datblygu neu Archwiliad Cyhoeddus,
iii. lle y cynrychiolir yr apelydd gan Arolygydd Ymgynghorol arall,
iv. mewn awdurdodau lle mae'r Arolygydd yn cyflawni gwaith neu wedi gwneud hynny yn ddiweddar, naill ai drwy gynrychioli cleientiaid neu drwy weithio i'r awdurdod yn rheolaidd, neu os oes gan yr Arolygydd briod/partner sy'n gweithio yn yr ACLl.
v. sy'n ymwneud â chleientiaid y mae'r Arolygydd wedi gweithredu drostynt fel ymgynghorydd.
Arolygwyr sy'n dychwelyd i'r un safle:
Nid ydym yn credu y byddai unrhyw berson teg ei feddwl yn credu bod posibilrwydd gwirioneddol y gallai Arolygydd fod â thuedd yn erbyn cynnig, yn syml oherwydd ei fod ef neu hi ar ryw adeg yn y gorffennol wedi delio â chynnig arall ar gyfer datblygu ar yr un safle. Rydym wedi penderfynu felly nad oes unrhyw resymau da dros atal Arolygwyr rhag ymgymryd â gwaith achos ar safleoedd lle maent eisoes wedi delio ag apêl.

Cynllun Iaith Gymraeg yr Arolygiaeth Gynllunio
Beth yw cyfrifoldebau'r Arolygiaeth Gynllunio fel yr amlinellir yn eu Cynllun Iaith Gymraeg?
Mae'r Arolygiaeth Gynllunio yn ymroddedig i Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, a chafodd ein Cynllun Iaith Gymraeg ei gymeradwyo ar 12fed Hydref 1998.
Ein Nod
Mae ein Cynllun yn amlinellu sut mae'r Arolygiaeth Gynllunio yn anelu at ddarparu gwasanaeth o safon yr un mor uchel i'w chwsmeriaid yn Gymraeg a Saesneg:
- Rydym yn ateb pob gohebiaeth yn newis iaith y gohebydd; yr un yw'r targedau amser i ateb llythyrau yn Gymraeg a Saesneg.
- Caiff troednodyn ei gynnwys ar dempledi llythyrau safonol yr Arolygiaeth a ddefnyddir yng Nghymru, sy'n nodi bod yr Arolygiaeth yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg.
- Gall unrhyw yn sy'n galw llinell ymholiadau cyffredinol yr Arolygiaeth yng Nghymru siarad â rhywun sy'n siarad Cymraeg os ydynt yn dymuno. Os bydd rhywun sy'n galw llinellau uniongyrchol yr Arolygiaeth yn siarad Cymraeg, ond nad yw'r person sy'n cymryd yr alwad yn siarad Cymraeg, yna bydd yn ceisio trosglwyddo'r alwad i gydweithiwr addas sy'n siarad Cymraeg. Os na fydd siaradwr Cymraeg ar gael, gall y galwr ddewis a hoffai i rywun sy'n siarad Cymraeg ei ffonio'n ôl, neu a hoffai barhau â'r alwad yn Saesneg. Os nad oes unrhyw un ar gael a all ateb yr ymholiad yn llawn yn Gymraeg, yn enwedig os yw'n achos cymhleth neu'n arbenigol, rhoddir y dewis i'r galwr o drafod y mater yn Saesneg neu anfon yr ymholiad atom yn ysgrifenedig.
- Ar ddechrau pob ymchwiliad a gwrandawiad, bydd yr Arolygydd yn gofyn p'un a fyddai unrhyw un sy'n bresennol yn dymuno siarad yn Gymraeg.
- Mae gwefan yr Arolygiaeth ar gyfer Cymru ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'r ddau safle union yr un fath o ran dyluniad, cynnwys ac ymarferoldeb ac yn unol ag arfer gorau ceir mynediad iddynt drwy un ragsgrîn er mwyn sicrhau bod y ddau fersiwn yr un mor amlwg.
- Ar hyn o bryd, mae'r Arolygiaeth yn cyfathrebu â thri awdurdod lleol, ac un sefydliad arall, drwy gyfrwng y Gymraeg. Cedwir enwau'r awdurdodau hyn ac enwau unrhyw sefydliad ac unigolyn arall sydd am gyfathrebu yn Gymraeg mewn Cofrestr ganolog.
- Mae'r Arolygiaeth wedi trefnu ei llwyth gwaith gweinyddol fel bod siaradwr sy'n rhugl yn y Gymraeg yn delio ag achosion yn y rhannau o Gymru lle mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf i'r rhan fwyaf o'r boblogaeth leol.
Mae'r Cynllun yn gymwys i'r Arolygiaeth Gynllunio gyfan o ran ei gwaith yng Nghymru. Rhaid i'r holl waith a gyflawnir gan yr Arolygiaeth barchu'r ymrwymiadau y manylir arnynt yn y Cynllun.
Mae copi llawn o'n Cynllun Iaith Gymraeg ar gael ar y wefan.
Os cyflwynir dogfennau (fel llythyrau gan bartïon sydd â diddordeb ac ati), a fyddant yn cael eu cyfieithu?
Bydd bob dogfen a gaiff ei chyflwyno i'r Arolygiaeth yn Gymraeg - nad oes cyfieithiad gydag ef yn barod - yn cael ei chyfieithu gan ein Darparwr Gwasanaeth Cyfieithu. Caiff copïau o'r cyfieithiadau hynny eu rhoi ar y ffeil er gwybodaeth i'r Arolygydd.
A allaf wneud cais i gael copïau o'r dogfennau sydd wedi'u cyfieithu?
Mae'r copïau o'r cyfieithiadau sydd wedi'u cadw ar ein ffeiliau apeliadau at ddefnydd y swyddfa yn unig; fodd bynnag, os caiff cais ei wneud am gopïau o gyfieithiadau yna codir tâl am bob dogfen er mwyn adennill y costau cyfieithu a chopïo.
Dylid gwneud ceisiadau yn ysgrifenedig at:
Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3N
Cwestiynau am y Wefan
A gyhoeddir penderfyniadau apêl ar y safle?
Nid yw penderfyniadau apêl yn cael eu cyhoeddi ar y safle ond mae copïau ar gael wrth gysylltu a ni drwy’r y Dudalen Benderfyniadau. Gallwch gweld Penderfyniadau Apeliadau Cyfyngu ar wefan y Tïm Apeliadau Mynediad.
A yw'r Nodiadau Cyngor Technegol ar gael ar y wefan?
Cynhyrchir Nodiadau Cyngor Technegol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru; cysylltwch â hwy os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r Nodiadau Cyngor Technegol.
Gallwch gweld dudalen Nodiadau Cyngor Technegol ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.
A yw'r Arolygiaeth Gynllunio yn cyhoeddi Adroddiadau Ystadegol ac Adroddiadau Blynyddol ar y wefan?
Mae ein Adroddiadau Ystadegol (Link) ac Adroddiadau Blynyddol (Link) wedi’i gyhoeddi ar y wefan i chi gael gweld.
Cwestiynau Eraill
Sut y gallaf gael gafael ar ddogfennau sydd ar gael gan yr Arolygiaeth Gynllunio, mewn print bras, ar dâp sain, mewn Braille, neu mewn iaith arall?
Os oes angen y ddogfen hon arnoch mewn print bras, ar dâp sain, mewn Braille neu mewn iaith arall, cysylltwch â'n llinell gymorth amrywiaeth ar 0117 372 6322 neu e-bostiwch enquiries@planning-inspectorate.gsi.gov.uk
Mae gen i gwestiwn am ffyrdd.
Os oes gennych gwestiwn am waith adeiladu ffyrdd yn eich ardal, oni bai bod y ffyrdd yn rhan o ystad a ganiatawyd gan apêl, dylech gyfeirio eich cwestiwn at eich cyngor lleol neu yn achos cefn-ffyrdd neu draffyrdd at Asiantaeth y Priffyrdd, sy'n gyfrifol am gynnal ac adeiladu'r prif ffyrdd.
Rwy'n fyfyriwr â chwestiwn - a allwch chi helpu?
Er y byddwn bob amser yn ceisio helpu myfyrwyr â chwestiynau, dim ond gwybodaeth am apeliadau penodol y gallwn ei darparu fel arfer. Gan fod cwestiynau cyffredinol yn codi amrywiaeth eang o faterion, fel arfer ni allwn ddarparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Mae cefndir ar llawer o faterion cynllunio ar gael yn rhwydd mewn gwerslyfrau cynllunio sydd ar gael mewn llyfrgelloedd. Fel arall, gallai'r Cysylltiadau Perthnasol roi mwy o gymorth
Cwestiynau ar Faes Busnes
Hysbysebion
C. Faint o amser sydd gennym i apelio?
A. 8 wythnos ar ôl cael penderfyniad yr LPA.
C. A oes angen i Gynghorau anfon holiadur?
A. Nac oes, nid ydynt yn ofynnol ar gyfer Apeliadau Hysbysebu.
C. A oes angen 2 gopi o'r datganiad ar yr Arolygiaeth?
A. Nac oes, dylid anfon un copi atom ni a chopi arall yn syth at yr apelwyr.
C. A ydym yn dilyn yr un rheolau a gweithdrefnau ag adran 78?
A. Nac ydym.
C. A oes ffi am apelio?
A. Nac oes.
C. Beth yw'r dyddiadau targed ar gyfer llythyr penderfyniad?
A. 16 wythnos ar gyfer cynrychioliadau ysgrifenedig a gwrandawiadau.
C. Beth yw'r prif wahaniaethau rhwng gweithdrefnau cynrychioliadau
ysgrifenedig a gwrandawiadau?
A. Gyda'r weithdrefn cynrychioliadau ysgrifenedig, gwneir y penderfyniad
yn dilyn cyfnewid tystiolaeth ysgrifenedig rhyngoch chi â'r LPA.
Gyda gwrandawiad, rydych yn cael y cyfle i weld a siarad gyda'r Swyddog
Apeliadau Hysbysebu, rhannu barn a thrafod eich apêl. Fodd bynnag,
mae'n rhaid i chi fod ar gael i fynychu gwrandawiad yn ystod yr wythnos
waith.
C. A oes rhaid i arolygwyr ymweld â safle ar eu pennau eu hunain?
A. Oes.
C. Gyda pwy y dylai pobl gysylltu er mwyn cael copïau o lythyrau
penderfyniad?
A. Cysylltwch yr adran cofrestra:
Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Teleffon: 029 2082 1629
Ffacs: 029 2082 5150
C. A yw'r Arolygiaeth Gynllunio yn annibynnol ar y Cyngor?
A. Ydyw.
C. A oes rhaid hysbysu personau â diddordeb am apêl?
A. Nac oes, ond gall LPA defnyddio ei ddisgresiwn os yw'n teimlo y dylid
hysbysu'r rhai â diddordeb.
C. A fydd y rhai â diddordeb yn cael gwybod pa bryd mae'r arolygydd
yn ymweld â safle?
A. Na fyddant.
Cynllunio Corfforaethol
C. A allwch anfon y ddogfen/dogfennau canlynol ataf - Cynllun Busnes
a Chorfforaethol, Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon a'r Adroddiad Ystadegol?
A. Mae'r ddogfennau hyn ar gael
ar ein gwefan.

Ceisiadau Galw i Mewn
C. A fydd modd i mi siarad yn yr ymchwiliad ac ar ba adeg yn ystod yr achos?
A. Bydd, ond yn ôl disgresiwn yr Arolygydd. Gan mai ar ddechrau'r ymchwiliad (neu yn y cyfarfod cyn-ymchwiliad, os oes un) fydd amserlen yr achos yn cael ei threfnu, dylech fynychu ar ddechrau'r ymchwiliad a rhoi gwybod i'r Arolygydd eich bod yn dymuno siarad.
C. Pa bryd fydd adroddiad yr Arolygydd yn cael ei gyhoeddi?
A. Cyhoeddir adroddiad yr Arolygydd yn dilyn penderfyniad y Gynulliad.
C. Pam nad ymgynghorir â phersonau a diddordeb am ddyddiad yr ymchwiliad?
A. Dim ond â Cheisyddion a'r Awdurdod Cynllunio Lleol y byddwn yn ymgynghori â hwy. Ond os ydych wedi ysgrifennu i ni ynglyn a'r gais byddwn yn eich hysbysu am ddyddiad yr ymchwiliad.
C. Ceisiadau am estyniad amser i gyflwyno cynrychioliadau hwyr gan bersonau â diddordeb.
A. Dylid gwneud pob cais yn ysgrifenedig a fel arfer dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y bydd eich cais yn cael ei ystyried.
C. Pam y galwyd y cais i mewn?
A. Mae hyn yn cael ei egluro yn y llythyr sy'n galw'r cais i mewn.
C. Faint o amser a gymer i ddelio â chais a alwyd i mewn (o'r dyddiad galw i mewn tan y cyhoeddir y penderfyniad)?
A. Mae hyn yn dibynnu ar gymhlethdod yr achos. Fel arfer cynhelir ymchwiliadau o fewn 22 wythnos i ddyddiad y llythyr galw i mewn; mae'r Arolygydd yn cyflwyno ei adroddiad cyn gynted ag sy'n bosibl ar ôl yr ymchwiliad; ac mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi eu penderfyniad cyn gynted ag sy'n bosibl ar ôl hynny.
C. A yw Cylchlythyr 7/2003 CCC ar gael ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio?
A. Ydyw. Mae ar dudalen y Cynllunio 952kb
Costau
C. Pwy all wneud cais am gostau?
A. Y prif bartïon - yr apelydd, neu'r LPA. Os ydynt yn credu bod
y parti arall wedi ymddwyn yn afresymol. Gall pobl â diddordeb wneud
cais hefyd. Ond dylech edrych ar y pamffledyn costau yn gyntaf i weld
o dan ba amgylchiadau y mae'n bosibl i chi wneud cais.
C. Sut mae mynd ati i wneud cais am gostau?
A. Dylid ei wneud ar lafar i Arolygydd yn ystod yr ymchwiliad / gwrandawiad.
Mewn achos cynrychioliadau ysgrifenedig (yn enwedig apeliadau gorfodi
neu dystysgrif datblygiad cyfreithlon - nid apeliadau cynllunio) dylid
ei wneud yn ysgrifenedig i'r Arolygiaeth Gynllunio cyn dyddiad yr arolygiad
o'r safle. Fel arfer, cyhoeddir y llythyr penderfyniad ar gais y costau
gyda llythyr penderfyniad yr apêl.
C. A gaf apelio am gostau mewn apeliadau a gynhelir trwy gyfrwng cynrychioliadau
ysgrifenedig?
A. Nid ar gyfer apeliadau cynllunio. Cewch, yn achos apeliadau gorfodi
neu dystysgrif datblygiad cyfreithlon a rhai o'r mathau mwyaf anghyffredin
o apeliadau - mae canllawiau manwl yng Nghylchlythyr y Swyddfa Gymraeg
23/93.
C. A oes modd gwneud cais ar ôl ymchwiliad/gwrandawiad?
A. Mae gan Gynulliad Cenedlaeth Cymru disgresiwn i dderbyn ceisiadau
am gostau sy'n "hwyr" ond dim ond os gellir dangos rheswm da
am beidio â gwneud cais ynghynt. Dylid gwneud ceisiadau yn ysgrifenedig
i Adran Gynllunio'r Cynulliad. Mae canllawiau pellach yn y pamffledyn
costau.
C. A yw'n bosibl dyfarnu costau pan fydd apêl wedi'i dynnu'n
ôl?
A. Ydyw, os tynnir apêl yn ôl ar ôl i ymchwiliad neu
wrandawiad gael ei drefnu neu os, yn achos apeliadau gorfodi neu dystysgrif
datblygiad cyfreithlon (waeth beth fo'r weithdrefn) tynnir apêl
yn ôl unrhyw bryd yn ystod y gweithdrefnau. Dylid gwneud ceisiadau
am gostau yn ysgrifenedig i Adran Gynllunio'r Cynulliad o fewn 4 wythnos
i dderbyn cadarnhad gan yr Arolygiaeth ynglyn â thynnu'r apêl
yn ôl. Gwneir y penderfyniad ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- nid gan Arolygydd - ar ôl cyfnewid gohebiaeth am gostau ysgrifenedig.
C. A yw'n bosibl dyfarnu costau os yw'r Cyngor yn tynnu hysbysiad
gorfodi yn ôl ar ôl i apêl gael ei gwneud?
A. Ydyw. Dylid gwneud ceisiadau am gostau yn ysgrifenedig i Adran Gynllunio'r
Cynulliad o fewn 4 wythnos i dderbyn cadarnhad yr Arolygiaeth ynglyn â
thynnu'r hysbysiad yn ôl. Gwneir y penderfyniad ar ran Cynulliad
Cenedlaethol Cymru - nid gan Arolygydd - ar ôl cyfnewid gohebiaeth
am gostau ysgrifenedig.
C. A oes modd dyfarnu costau i/yn erbyn trydydd partïon (pobl
â diddordeb)?
A. Oes. Fodd bynnag, anaml y dyfernir costau ac fe'u dyfernir ar sail
camweinyddu yn unig. Mae'r pamffledyn costau yn darparu gwybodaeth bellach.
C. A ddyfernir costau ar sail llwyddiant apêl?
A. Na. Ni ddyfernir costau yn awtomatig i'r enillydd yn erbyn yr un sy'n
colli mewn apêl. Dim ond ar sail ymddygiad sy'n peri i'r ceisydd
fynd i gostau diangen neu wastraff y dyfernir costau. Rhoddir enghreifftiau
o ymddygiad afresymol yn y pamffledyn costau.
C. Pa gostau y gallaf wneud cais amdanynt?
A. Dyfernir costau os bydd treuliau diangen yn ystod y weithdrefn apelio.
Nid yw dyfarniad yn ymestyn i geisiadau am iawndal ar gyfer colledion
anuniongyrchol megis y rheini sy'n deillio o oedi wrth gael caniatâd
cynllunio.
C. Os dyfernir costau, a yw'r penderfyniad ar gostau yn nodi'r cyfanswm
sydd i'w hawlio?
A. Nac ydyw. Mae'r penderfyniad costau ond yn ymwneud â'r egwyddor
a yw un parti wedi ymddwyn yn afresymol ac wedi peri costau diangen neu
wastraff i'r ceisydd. Y partïon eu hunain sydd i benderfynu ar yr
union swm.
C. Dyfarnwyd costau i mi, ond mae'r parti arall yn gwrthod talu. Beth
y gallaf ei wneud?
A. Ceisiwch asesiad annibynnol gan Swyddfa Costau y Goruchaf Lys. Dylai
bod canllawiau ar sut i wneud cais fod wedi eu hanfon gyda llythyr penderfyniad
y costau ond gellir anfon copi pellach ar eich cais.
C. A oes modd herio penderfyniad ar gostau yn y Llysoedd?
A. Oes, os yw penderfyniad yn gyfreithiol ddiffygiol neu os nad yw gofynion
cyfiawnder naturiol wedi eu cyflawni. Y weithdrefn yw gofyn yn ddi-oed
(mewn unrhyw achos o fewn 3 mis i'r penderfyniad) i'r Uchel Lys adolygu'r
penderfyniad yn gyfreithiol. Cynghorir unrhyw un sy'n ystyried gwneud
hynny geisio cyngor cyfreithiol proffesiynol.
C. A allwch chi ddelio ag ymholiad ynglyn â ffioedd ceisiadau
cynllunio?
A. Na allwn. Mae hwn yn fater hollol wahanol i apeliadau am gostau. Adran
Gynllunio'r Cynulliad sy'n delio â ddadleuon am ffioedd.
Llyfrgell y Llythyrau Penderfyniad
C. A yw'r Arolygiaeth Gynllunio yn cadw copïau o Lythyrau Penderfyniad?
A. Ydy, mae copïau o'r Llythyrau Penderfyniad ar gael i'r cyhoedd eu gweld 5 mlynedd ar ôl dyddiad y penderfyniad. Dim ond ar ffurf copi caled y mae Llythyrau Penderfyniad hŷn ar gael. Yn 2006 roedd y rhan fwyaf o Lythyrau Penderfyniad ar gael mewn fformat electronig.
Copïau caled o Lythyrau Penderfyniad: Mae llythyrau ar y ffurf hon ar gael ar hyn o bryd ar gyfer apeliadau y penderfynwyd arnynt rhwng Hydref 2001 a Hydref 2006. Bydd y casgliad hwn o gopïau caled yn lleihau bob blwyddyn. Erbyn Hydref 2011 bydd y rhan fwyaf o'r casgliad cyfredol ar ffurf electronig ac ar gael o'r Porth Cynllunio (gweler isod).
Llythyrau Penderfyniad Electronig: Cyn 2006 cynhyrchwyd Llythyrau Penderfyniad ar ffurf copi caled yn unig. Yn ystod 2006 dechreuwyd ar y gwaith o newid o gopïau caled i gopïau electronig. Erbyn 2007, dim ond ar ffurf electronig y bydd y rhan fwyaf o benderfyniadau, os nad pob penderfyniad, ar gael.
I gael copïau caled o Lythyrau Penderfyniad sydd ar gael o hyd, neu i gael Llythyrau Penderfyniad electronig cysylltwch â :-
Llyfrgell Llythyrau Penderfyniad yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru (Ffôn: 02920 821629)
E-bost: wales@planning-inspectorate.gsi.gov.uk
C. Faint mae Llythyrau Penderfyniad yn ei gostio?
A. Mae pob cais ad hoc am gopïau caled o Lythyrau Penderfyniad yn costio 10c am bob dalen A4 (yn ogystal â chludiant a phacio), ond dim ond os yw cyfanswm y gost yn uwch na £15.00. Darperir y rhan fwyaf o geisiadau am gopïau caled o Lythyrau Penderfyniad am ddim. Gellir codi tâl am geisiadau lluosog os gwneir cais am fwy na 40 o Lythyrau Penderfyniad yr un pryd. Bydd hyn hefyd yn dibynnu ar faint y Llythyrau Penderfyniad y gwneir cais amdanynt.
Mae copïau electronig o Lythyrau Penderfyniad ar gael am ddim.
Gorfodi
C. Erbyn pryd y dylai fy apêl gael ei hanfon i mewn / ddod i
law?
A. Mae'n rhaid i'r apêl ddod i law trwy gyfrwng yr Arolygiaeth Gynllunio
CYN y dyddiad y nodir y bydd yr hysbysiad gorfodi yn dod i rym (y dyddiad
dod i rym).
C. Faint o amser a gymer Apêl Gorfodi?
A. Y dyddiad targed ar gyfer cwblhau'r apeliadau hyn yw 26 wythnos i'r
rheini sy'n mynd trwy gyfrwng y Weithdrefn Ysgrifenedig. 46 wythnos ar
gyfer yr rheini sy'n mynd trwy gyfrwng gwrandawiad neu ymchwiliad lleol.
Adnoddau Dynol
C. A oes gennych unrhyw swyddi gwag ar gyfer Arolygwyr Cynllunio?
A. Oes, ychwanegwyd pob swydd gwag i’r dudalen Swyddi Gwag i Arolygwyr. Yn ogystal, mae gennym dudalen Swyddi Gwag i Arolygwyr Ymgynghorol.
C. A oes gennych unrhyw swyddi gwag ar gyfer staff Gweinyddol?
A. Oes, ychwanegwyd pob swydd gwag i’r dudalen Swyddi Gwag i Raddau Gweinyddol.
Cwynion
C. Beth yw gweithdrefnau cwyno'r Arolygiaeth Gynllunio?
A. Mae'r gweithdrefnau i'w weld ar y dudalen wneud Cwyn.
Gorchmynion Prynu Gorfodol
C. Pwy sy'n delio â Gorchmynion Prynu Gorfodol (rydym yn derbyn nifer o'r galwadau hyn gan fod pobl yn cymysgu rhwng Gorchmynion Prynu Gorfodol a Hysbysebion Prynu)?
A. Yng Nghymru - Yr Arolygiaeth Gynllunio. Os ydych eisiau mwy o wybodaeth ynglŷn â Gorchmynion Prynu Gorfodol a’i weithdrefnau, cysylltwch a ni ar 029 2082 3866, neu e-bôstiwch at wales@planning-inspectorate.gsi.gov.uk.
Cofrestrfa
C. A fyddech cystal ag anfon set o ffurflenni Apêl ataf?
A. Mae'n rhaid i chi ganfod y math o ffurflen apêl sydd ei angen
arnoch h.y. A78, Adeilad Rhestredig, Hysbysebu, a Gorfodi. Yna, naill
ai nodwch eich enw a'ch cyfeiriad i anfon y ffurflen eich hun, neu ewch
ymlaen i'r adran briodol. Mae gennym ffurflenni hefyd ar gael ar ein tudalen
Ffurflenni.
C. Faint o amser a gymer apêl i fynd trwy'r broses?
A. Ein targedau yw 16 wythnos ar gyfer cynrychioliadau ysgrifenedig,
22 wythnos ar gyfer Gwrandawiadau a 30 wythnos ar gyfer Ymchwiliadau.
C. A allwch fy helpu i gwblhau fy ffurflen apêl?
A. Cadarnhewch y math o apêl ac anfonwch hi at y Swyddog Achos
perthnasol.
C. A fydd apêl yn costio unrhyw beth i mi?
A. Na fydd. Ond, efallai y bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn hawlio
costau yn eich erbyn, os yw'r apêl yn mynd trwy gyfrwng Ymchwiliad
neu Gwrandawiad. (Unrhyw beth arall, cyfeiriwch at yr Adran Gostau.)
C. A ydych yn delio â'r Gorchmynion Diogelu Coed?
A. Ydym, er dim ond yng Nghymru.
C. Ymhle y gallaf gael gafael ar gyhoeddiadau sydd ar werth adrannol?
A. Mae'r rhain ar gael gan:
Publications Sales Centre
Department of the Environment, Transport and the Regions
Unit 21, Goldthorpe Industrial Estate
Goldthorpe
Rotherham
S63 9BL
Ffôn: 01709 891318
Ffacs: 01709 881673
C. A fyddech cystal ag anfon copi o'ch llyfryn 'Canllaw i Gymryd Rhan
Mewn Apeliadau'?
A. Gallwn anfon copi atoch, ond dylid gwneud archebion mawr drwy
(DTLR Free Literature
(PO Box 236
(Weatherby
(L23 7NB
Ffacs: 0870 1226 237
Ystadegau
C. A allwch ddweud wrthyf ble y gallaf ddod o hyd i ystadegau
a fydd yn fy hysbysu o nifer yr apeliadau a'r gwaith achos arall y mae'r
Arolygiaeth Gynllunio yn ymdrin â hwy?
A. Mae'r ystadegau hyn i'w gweld ar dudalen ystadegau
gwefan yr Arolygiaeth Gynllunio.
C. A allwch ddweud wrthyf beth yw targedau'r Arolygiaeth wrth
ddelio â gwaith achos a ph'un a yw'n cyflawni'r targedau hynny?
A. Mae targedau'r Arolygiaeth i'w gweld yn Atodiad
C ac Atodiad
D o'i Hadroddiad
Blynyddol. Mae ei pherfformiad presennol wedi'i nodi yn adran "Gwybodaeth
am Apeliadau Cynllunio" y Cwestiynau a Ofynnir yn Aml.
Tîm Rheoli'r We
Cyfeiriwch bob ymholiad am y Wefan at:
webteam@planning-inspectorate.gsi.gov.uk
Ffôn: 0117 3728027
C. Pan wyf yn ceisio llwytho dogfen ar ffurf PDF, mae'r ffurflen yn
llwytho'n rhannol ac yna mae fy nghyfrifiadur yn rhewi.
A. Mae Adobe Acrobat
yn newid eu 'viewer' PDF (Acrobat Reader) yn aml
ac rydym yn argymell y dylai'r fersiwn ddiweddaraf gael ei llwytho bob
amser er mwyn cael y gorau o'r ffurflenni. Ymhlith y rhesymau eraill pam
y gall fod problemau, mae hyd maint y ffeil (mae meintiau'n amrywio o
10kb i 300kb) a gallant gymryd rhwng 5 - 60 eiliad i lwytho yn dibynnu
ar gyflymderau cysylltu eich cysylltiadau. Rydym hefyd wedi adnabod "byg"
yn Acrobat Reader - wrth glicio ddwywaith ar gyswllt ffurflen PDF, bydd
yn achosi i'ch cyfrifiadur fethu, ond dylid datrys y bygiau hyn mewn fersiynau
hwyrach o Acrobat Reader.
C. Llwythais y ffurflenni apêl trwy gyfrwng Acrobat, ond nid
oeddwn yn gallu golygu nifer o'r meysydd. Cadwyd y wybodaeth ar "ffurf
gudd" ond nid oedd yn fodlon argraffu na safio yn unman arall. Ni
allwn ddilyn y cyfarwyddiadau technegol cymhleth yn ffeil help Acrobat.
A. Mae ein ffurflenni ar-lein wedi eu cynllunio ar gyfer eu hargraffu.
Nid ydym yn gallu derbyn ffurflenni apêl dros y Rhyngrwyd, ond dylai
fod gan y defnyddiwr y gallu i safio'r ffurflen trwy gyfrwng yr eicon
'Save as' ar ochr chwith uchaf y dudalen. Gan nad yw'r ffurflen yn ddeinamig,
ni all addasu i ofynion y defnyddiwr. (e.e. enw sy'n rhy hir i'r llinell).
Pan gaiff gwybodaeth ei theipio nad oes lle iddi ar y llinell, mae'n mynd
yn gudd (gan nad yw'r llinell yn gallu ehangu), ond mae'r wybodaeth yn
dal i fod yno ar ffurf wedi'i safio. Mae'r Arolygiaeth Gynllunio yn argymell
y dylid defnyddio'r llinellau sydd wedi'u neilltuo i deipio gwybodaeth
bellach. Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu defnyddioldeb ein ffurflenni
a gobeithiwn y byddwn yn bodloni gofynion pob defnyddiwr.
C. Cefais broblem chwilio am ffurflenni sydd ar gael trwy gyfrwng
eich gwefan.
A. Mae'r holl ffurflenni sydd ar gael ar ein gwefan erbyn hyn wedi eu
trefnu yn nhrefn yr wyddor i'w gwneud yn haws dod o hyd i'r ffurflen sydd
ei hangen arnoch.
C. Nid wyf yn gallu llwytho holiaduron o ganlyniad i 'firewall'. Rwy'n
gorfod clicio botwm dde y llygoden a'u safio yn Adobe i'w darllen.
A. Gall Firewalls (wal "rithwir" â diogelwch uchel sy'n
atal gwybodaeth ar wefan y tybir ei bod yn niweidiol i'r cyfrifiadur)
a Javascript (iaith gyfrifiadurol) effeithio ar y ffordd y mae pobl yn
gweld cynnwys ar ein gwefan. Pan fod pobl yn mynd i edrych ar ffurflen
ar ein gwefan, mae'n llwytho'n "awtomatig" ar eu cyfrifiadur.
Efallai nad yw'r effaith "llwytho" hon yn bosibl ar gyfrifiaduron
sydd â mynediad cyfyngedig neu gwmnïau sy'n ymwybodol o ddiogelwch.
Gan fod hon yn agwedd annatod ar ein ffurflenni, awgrymaf bod defnyddwyr
yn llwytho ffurflenni ar beiriant â diogelwch isel neu'n gofyn i'r
ffurflen gael ei hanfon atynt dros yr e-bost.
C. Mae ffurflenni apêl Caniatâd Adeilad Rhestredig ac
Ardaloedd Cadwraeth yn peri problemau, gan eu bod yn anodd i'w llwytho
ac maent yn ymddangos fel petai nam ynddynt.
A. Mae ffurflenni Portable Document Format (PDF) yn sefydlog iawn. Mae
ffontiau, lliwiau a chynllun y dudalen yn sefydlog ac nid ydynt yn newid
pan edrychwch arnynt o gyfrifiaduron/systemau eraill. Gall namau godi
wrth lwytho, ond mae hynny o ganlyniad i gysylltiad y defnyddiwr â'r
Rhyngrwyd. Namau ar y ffurflenni, efallai na ellir dewis rhai rhannau
o'r safle ac ati. Nid oes modd golygu rhai rhannau megis "Dyddiad
a Llofnod" gan ein bod am i'r defnyddiwr argraffu'r ffurflen a'i
llofnodi eu hunain. (Methu derbyn ffurflenni gwe/llofnodion dros yr e-bost
ar hyn o bryd). Rydym wedi cymryd camau i wneud y ffurflenni ar y wefan
yn haws i'w defnyddio. Mae lliw y ffurflen wedi newid i floc (fel nad
yw defnyddwyr yn gwastraffu inc argraffu) ac mae cyfeiriad y wefan wedi
ei hymgorffori i hybu ymwybyddiaeth o'r we.
C. Mae bron yn amhosibl teipio'n gywir dros nifer o'r ffurflenni PDF
apêl y gellir eu llwytho. Gellir cwblhau rhai blychau, ond nid rhai
eraill.
A. Mae ein ffurflenni ar-lein wedi eu cynllunio i'w hargraffu. Nid ydym
yn gallu derbyn ffurflenni apêl dros y Rhyngrwyd, ond dylai fod
gan ddefnyddiwr y gallu i safio'r ffurflenni gyda'r eicon "Save as"
sydd ar ochr chwith uchaf y ffurflen. Gan nad yw'r ffurflen yn ddeinamig,
ni all addasu i ofynion y defnyddiwr (e.e. enw sy'n rhy hir i'r llinell).
Pan gaiff gwybodaeth ei theipio nad oes lle iddi ar y llinell, mae'n mynd
yn gudd (gan nad yw'r llinell yn gallu ehangu), ond mae'r wybodaeth yn
dal i fod ar yr un ffurf wedi'i safio.
Buaswn yn argymhellaf ddefnyddio llinellau sydd wedi'u neilltuo i deipio
gwybodaeth bellach. Ar hyn o bryd, rydym yn arolygu defnyddioldeb ein
ffurflenni a gobeithiwn y byddwn yn bodloni gofynion pob defnyddiwr.
C. Diffyg eglurder ynglyn â rhai cysylltiadau ar y wefan.
A. Ar hyn o bryd, mae'r dudalen yn cael ei hailgynllunio, fel bod defnyddiwr
wrth fynd ar unrhyw dudalen ar y safle yn gallu mynd yn ôl i'r adran
dudalennau. Gweler yr Adrannau "Ynglyn â ni" neu "Gweithio
i'r Arolygiaeth Gynllunio". Mae cysylltiadau yn hawdd i'w dilyn ac
mae'n fwy eglur symud drwyddynt. Mae gan lawer o'r cysylltiadau allanol
â gwefannau eraill beth testun sy'n egluro lle bydd y defnyddiwr
yn mynd. Ar hyn o bryd rydym yn cysylltu â chwmnïau â
chysylltiad ar ein gwefan am ddisgrifiadau pellach.
C. Nid yw cysylltiadau ar y wefan yn gweithio a ddarperir trwy gyfrwng
gwefan yr Arolygiaeth Gynllunio, gwefan Bae Dibden a gwefan Porth Cynllunio
A. Cysylltwch â'n Gwedîm
a fydd yn barod i ymateb i unrhyw ymholiadau.
Gellir trosglwyddo unrhyw newidiadau pellach i'r Cwestiynau a Ofynnir
yn Aml at:
The Planning Inspectorate
Customer Support Unit
Room 3/15 Eagle Wing
Temple Quay House
2 The Square
Temple Quay
Bristol
BS1 6PN
Ffôn: 0117 372 6372
Ffacs: 0117 372 8782
E-bost: enquiries@planning-inspectorate.gsi.gov.uk
|