Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Rhyddid Gwybodaeth

Noder - Cyn Ionawr 1 2005 y Cod Ymarfer ar Fynediad i Wybodaeth y Llywodraeth, "Y Cod", oedd y weithdrefn fynediad ar gyfer gwybodaeth y Llywodraeth. Fe'i disodlwyd bellach gan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Mae'n bosibl gwneud cwynion i'r Ombwdsmon o hyd ynglyn â cheisiadau i weld gwybodaeth a wnaed o dan y cod pan oedd mewn grym - gweler y Cod Ymarfer ar Fynediad i Wybodaeth y Llywodraeth

Daeth darpariaethau mynediad i wybodaeth Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol i rym ar 1 Ionawr 2005. Maent yn rhoi hawliau ynediad cyhoeddus uwch i ystod eang o wybodaeth a ddelir gan gyrff cyhoeddus, yn cynnwys gwybodaeth amgylcheddol.

Mae'r dudalen hon yn esbonio sut y gallwch gael mynediad i'r wybodaeth a ddelir gennym.

Gwybodaeth a Gyhoeddwyd

Mae'r canlynol ar gael drwy ein gwefan a hefyd ar gais.

Cynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru / Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog.

Mae gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu cynllun cyhoeddi eu hun sydd i'w weld are eu wefan. Fel un o asiantaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog (ODPM) defnyddiwn yr un cynllun cyhoeddi.   Mae adran 19 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus drefnu bod gwybodaeth ar gael trwy Gynllun Cyhoeddi.

Nid ystyrir bod yr Arolygiaeth yn gorff cyhoeddus ynddi’i hun o fewn telerau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Felly cynhwysir cwmpas y wybodaeth a ddelir gennym yn y cynllun cyhoeddi a luniwyd gan ein Rhiant-adran, sef Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog (ODPM). Mae’r cynllun yn nodi’r categorïau o wybodaeth y mae’r ODPM, gan gynnwys ei hasiantaethau a Swyddfeydd y Llywodraeth, yn eu cyhoeddi ar hyn o bryd ac a gyhoeddir ganddynt yn y dyfodol, ac mae’n esbonio sut i gael y wybodaeth honno (a all fod ar gael yn uniongyrchol trwy’r ODPM neu rywle arall).

Nid yw'r cynllun yn rhestru dogfennau unigol ond mae'n rhestru'r wybodaeth a gyhoeddwyd yn ôl categori sydd ar gael gan yr ODPM, swyddfeydd rhanbarthol yr ODPM, a ninnau. Mae’r Cynllun Cyhoeddi hefyd yn egluro p’un a yw’r wybodaeth ar gael am ddim neu ar ôl talu tâl. Byddwn y cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r deunydd ar gyfer pobl sydd angen gwybodaeth mewn fformatiau eraill.

Sut yr ydym yn gweithredu Cynllun Cyhoeddi Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog.

Ein nod yw sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael ar-lein drwy ein gwefan/gwefannau. Oherwydd y modd yr ydym yn rhedeg y cynllun ymgynghorwch yn gyntaf â’n gwefan/gwefannau am y wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Os na allwch ddod o hyd i’r hyn sydd ei eisiau arnoch yna ewch at gynllun Cyhoeddi ODPM i weld a yw ar y rhestr. Darperir gwybodaeth a gynhwysir yn y Cynllun, naill ai ar wefan ODPM, neu trwy fannau cysylltu ODPM neu ddarparwyr eraill (ar yr amod y byddant yn cytuno) fel y nodir. Mae gwefan ODPM a’n gwefan ni hefyd yn cynnwys gwybodaeth nas cyhoeddir fel arfer ac nas cwmpesir gan y Cynllun ond a ddarperir serch hynny.

Os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych ei eisiau naill ai ar y wefan neu drwy'r Cynllun hwn gallwch ystyried pa un a ydych yn dymuno gwneud cais am fynediad o dan ddarpariaethau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 neu'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2005. Dylai ceisiadau ar gyfer mynediad gael eu cyfeirio atom ni, yr Arolygiaeth Gynllunio, yr ODPM, Swyddfeydd Llywodraeth yr ODPM, neu bwyntiau cyswllt yr Asiantaeth a restrir yn y cynllun hwn. Rhowch gymaint o fanylion â phosibl i'n helpu i nodi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn i ni allu eich helpu gyda'ch cais .

Gweler Cynllun Cyhoeddi'r OPDM

Cyhoeddiadau/Ffurflenni

Mae'r ODPM a ninnau yn cyhoeddi nifer o gyhoeddiadau a ffurflenni ar ein gwefannau a gallwch bori a chwilio amdanynt. Codir ffi am rai cyhoeddiadau er nad oes unrhyw ffi am gyhoeddiadau ar-lein a ryddheir drwy ein gwefannau.

Newyddion, Cyhoeddiadau, Datganiadau i'r Wasg.

Mae gwybodaeth a ryddhawyd yn ddiweddar ar gael ar ein gwefan. Lle y bo'n angenrheidiol byddwn yn eich cyfeirio at wefan gysylltiedig am ragor o wybodaeth.

Cofrestr Asedau Gwybodaeth (IAR)

Mae Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (OPSI) wedi esblygu o Lyfrfa Ei Mawrhydi (HMSO). Mae gan OPSI gylch gwaith eang i reoleiddio a chynghori ar weithredu ailddefnyddio gwybodaeth y sector cyhoeddus, yn cynnwys y defnydd o Gofrestri Asedau Gwybodaeth (IAR) yn y Llywodraeth. Mae "Inforoute" yn wasanaeth a ddarperir gan OPSI sy'n rhoi mynediad uniongyrchol i Gofrestr Asedau Gwybodaeth y Llywodraeth. Mae'r Gofrestr yn rhestri'r adnoddau gwybodaeth a ddelir gan Lywodraeth y DU, gan ganolbwyntio ar adnoddau nas cyhoeddwyd. Wrth wneud hynny, mae'n galluogi defnyddwyr i gael gwybod, o un ffynhonnell, y wybodaeth a ddelir mewn amrywiaeth eang o adrannau'r llywodraeth, asiantaethau a sefydliadau eraill. Mae OPSI yn gweithio gydag adrannau i'w helpu i ddatblygu eu Cofrestri ymhellach a chydgysylltu ein gwaith â'r Cynlluniau Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth (FOI). Yn yr un modd ag y mae adrannau'n nodi gwybodaeth i'w chyhoeddi drwy eu Cynlluniau Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth, gellir nodi gwybodaeth nas cyhoeddwyd i'w chynnwys ar y Gofrestr.

Nod y Gofrestr yw cwmpasu'r symiau enfawr o wybodaeth a ddelir gan bob adran ac asiantaeth y llywodraeth. Mae hyn yn cynnwys cronfeydd data, hen setiau o ffeiliau, ffeiliau electronig diweddar, casgliadau o ystadegau, ymchwil ac ati. Mae'r Gofrestr yn canolbwyntio ar adnoddau gwybodaeth nad ydynt wedi eu cyhoeddi, ac na chânt eu cyhoeddi'r ffurfiol oherwydd eu strwythur neu eu natur.  Mae Inforoute yn rhan allweddol o agenda'r Llywodraeth i hwyluso mynediad at wybodaeth swyddogol ac ystyrir rhyddhau'r wybodaeth ar gais.

Mae Inforoute yn cysylltu â ffynonellau eraill o wybodaeth swyddogol a rhestri o gyhoeddiadau swyddogol (e.e. Directgov, UKOP a'r Llyfrfa). Am ragor o wybodaeth am Inforoute a Chofrestri Asedau Gwybodaeth, ewch i http://www.opsi.gov.uk/iar/index.htm

Gwybodaeth a Ryddhawyd

Pan fernir bod ceisiadau am wybodaeth o ddiddordeb ehangach i'r cyhoedd, byddwn yn cyhoeddi'r ymateb ar ein gwefan. Ewch i'n tudalen Gwybodaeth a Ryddhawyd i weld yr ymatebion.

Gwneud cais am Wybodaeth.

Gydag eithriadau cyfyngedig mae'n ofynnol i ni ateb eich ceisiadau o fewn 20 diwrnod gwaith i dderbyn eich cais. Po gliriaf y bydd eich cais yr hawsaf y bydd i ni eich helpu. Os na fydd eich cais yn glir byddwn yn cysylltu â chi i gael eglurhad o ran pa wybodaeth yr ydych yn gwneud cais amdani.

Efallai y byddwn yn atal rhywfaint o wybodaeth rhag cael ei rhyddhau lle mae'n ofynnol i ni wneud hynny o dan y gyfraith. Yn aml gelwir hyn yn eithrio rhag rhyddhau o dan Rhyddid Gwybodaeth neu'n eithrio rhag rhyddhau o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. Mae arweiniad a gwybodaeth ynglyn â'r hyn y gellir ei ryddhau a'r hyn na ellir ei ryddhau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth neu'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol ar gael o wefan yr Adran Materion Cyfansoddiadol (DCA) yn www.foi.gov.uk

Rhyddiad Gwybodaeth (FOI)

Mae'n rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig.

Gallwch wneud cais drwy lythyr, e-bost neu ffacs.

Gwybodaeth Amgylcheddol

Yn wahanol i gais Rhyddid Gwybodaeth gallwch wneud cais am wybodaeth amgylcheddol ar lafar.

Yn ogystal, gallwch wneud cais ysgrifenedig gan ddefnyddio e-bost neu ffacs.

Data Personol

Mae'n rhaid i geisiadau am wybodaeth bersonol y gallai fod gennym amdanoch gael eu gwneud yn ysgrifenedig. Mae'n rhaid i chi gwblhau ffurflen a ryddheir ar gais a rhoi dwy ffurf o brawf adnabod. Am ragor o wybodaeth ynglyn â data personol darllenwch ein datganiad preifatrwydd ar-lein .

Arolygu Gwybodaeth -Temple Quay House ym Mryste neu Swyddfa Parc Cathays yng Nghaerdydd

Mae'r broses gynllunio yn cynnwys llawer o wybodaeth a ryddheir gennym ar-lein, gennym ni neu gan awdurdodau lleol ac mewn ymchwiliadau lleol. Os bydd angen i chi ymweld â'n swyddfeydd i weld gwybodaeth a gedwir gennym, cysylltwch â ni i wneud apwyntiad er mwyn i ni allu gwneud trefniadau gyda chi. Am wybodaeth am sut i ddod o hyd i ni ewch i'r adran ymweld â ni.

Ceisiadau am Wybodaeth a Phreifatrwydd.

Wrth wneud cais am wybodaeth gallwch ddarparu rhywfaint o ddata personol ar ein cyfer, gan gynnwys eich enw, eich cyfeiriad a manylion cyswllt eraill. Byddwn yn gofyn am y data hwn i’ch helpu i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Ar ben hynny byddwn yn cadw ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i’n helpu i nodi tueddiadau cyffredinol, neu benodol o ran ceisiadau am wybodaeth i’n helpu i wella’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu ar eich cyfer. Ni ryddheir eich data personol i eraill ac nis defnyddir at ddibenion eraill chwaith.

Gweler ein Datganiad Preifatrwydd ar-lein am wybodaeth arall am y polisi diogelu data yn yr Arolygiaeth Gynllunio, gan gynnwys sut i ddefnyddio ein gweithdrefnau cyrchu gwrthrych i wneud cais am wybodaeth am unrhyw ddata personol y gallwn fod yn ei ddal amdanoch chi.

Cwynion ac Apeliadau ynglyn â Mynediad i Wybodaeth

Ein nod yw ceisio eich helpu. Os bydd angen i chi wneud cwyn ynglyn â'r ffordd y gwnaethom ymdrin â'ch cais neu os ydych yn dymuno gwneud apêl yn erbyn ein penderfyniad i wrthod rhyddhau gwybodaeth darllenwch ein gweithdrefn Cwynion ac Apeliadau Mynediad i Wybodaeth.

Ar gyfer pob ymholiad ynglyn â'n polisïau mynediad i wybodaeth a phreifatrwydd a'r polisïau ar waith achos cynllunio.

Darllenwch yr adran "Cysylltwch â Ni" ar ein gwefan.

Cyfeiriadau Defnyddiol 

HMSO

Am ragor o wybodaeth ynglyn â hawliau mynediad i wybodaeth defnyddiwch y cysylltiadau canlynol:

Rhyddid Gwybodaeth

Am arweiniad a gweithdrefnau gan yr Adran Materion Cyfansoddiadol 

Gwybodaeth Amgylcheddol

Ar gyfer materion sy'n ymwneud â gwybodaeth amgylcheddol:
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA)-
www.defra.gov.uk Mynediad i Wybodaeth Amgylcheddol

Gwybodaeth Bersonol a Hawliau Preifatrwydd

Y Comisiynydd Gwybodaeth: www.informationcommissioner.gov.uk

Yr Arolygiaeth Gynllunio

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 029 2082 3866
Ffacs: 029 2082 5150
E-bost : wales@planning-inspectorate.gsi.gov.uk

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English