Datganiad Preifatrwydd
Pwy ydym ni
Mae'r Arolygiaeth Gynllunio yn gweithio i Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog
a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae ein prif weithgaredd yn ymwneud ag
amrywiaeth o waith achos o dan ddeddfwriaeth Cynllunio ac Amgylcheddol.
Bwriedir i'r wybodaeth ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio a'n gwefannau
cysylltiedig fod yn adeiladol ac yn ddiddorol.
Rydym wedi darparu Tudalen Ymchwiliadau
lle y ceir rhestr o wefannau yn ymwneud ag Ymchwiliadau'r Arolygiaeth
Gynllunio.
Am wybodaeth am ein polisi ar ganiatáu i'r cyhoedd weld gwybodaeth
gweler y tudalennau sydd wedi'u neilltuo ar gyfer:
- Cod Ymafer ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth y Llywodraeth;
- Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a Chynllun Cyhoeddi Swyddfa'r Dirprwy Brif
Weinidog
Siarter Gwybodaeth Bersonol
Mae'r Arolygiaeth Gynllunio, yn unol â'r argymhellion yn yr Adolygiad Trin Data traws-lywodraethol, wedi cyhoeddi ei Siarter Gwybodaeth Bersonol. Mae'r siarter hon yn gwneud ymrwymiadau i'r cyhoedd am y ffordd y byddwn yn trin gwybodaeth bersonol y mae'n ei rhoi i ni ac yn gyfnewid rydym yn gofyn iddo roi gwybodaeth gywir a chyfredol i ni fel y gallwn ddarparu gwasanaethau perthnasol iddo.
Ymwadiad
Nid yw unrhyw Adran o Lywodraeth Ei Mawrhydi nac unrhyw un o'i chyflogeion,
ei hasiantiaid na'i hisgontractwyr yn gwarantu mewn unrhyw ffordd, yn
ddatganedig neu'n oblygedig, fanwl gywirdeb na chyflawnder unrhyw wybodaeth
a gynhwysir ar y wefan hon neu unrhyw wefan y cyfeirir ati nac yn cymryd
unrhyw atebolrwydd na chyfrifoldeb cyfreithiol dros fanwl gywirdeb na
chyflawnder y cyfryw wybodaeth. Os cewch fynediad i'r wefan neu unrhyw
wefan y cyfeirir ati dylech gymryd y camau priodol i wirio'r cyfryw wybodaeth.
Ni ellir dal unrhyw Adran o Lywodaeth Ei Mawrhydi yn gyfrifol am gynnwys
unrhyw dudalennau y cyfeirir atynt drwy gysylltiad i wefan allanol am
na reolir y cynnwys gennym ac nid yw'n eiddo i ni. Nid oes unrhyw gyfeiriad
ar ein gwefannau at unrhyw bobl, cynhyrchion, gwefannau neu wasanaethau
yn golygu nac yn amgrymu eu bod yn cael eu cymeradwyo, eu hargymell na'u
ffafrio gan unrhyw Adran o Lywodraeth Ei Mawrhydi, ei chyflogeion, ei
hasiantiaid na'i hisgontractwyr.
Polisi Preifatrwydd
O dan Ddeddf Diogelu Data 1998, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i'ch
hysbysu o wybodaeth a gasglwn amdanoch chi ac i ddiogelu'r cyfryw wybodaeth.
Y wybodaeth ganlynol yw ein polisi ar hyn o bryd. Gellir newid y polisi
hwn a nodir unrhyw newidiadau mewn nodyn diweddaru ar y dudalen hon. Cewch
wybod am unrhyw newidiadau o ran sut yr ydym yn cymhwyso ein polisi i
sicrhau y rheolir eich data personol yn gywir trwy adolygu'r dudalen hon
yn rheolaidd.
Mae'r polisi preifatrwydd yn berthnasol i:
Enw'r Sefydliad: Yr Arolygiaeth Gynllunio
Cyfeiriad y Wefan: http://www.planning-inspectorate.gov.uk/pins/index.htm
Rheolir y Wefan Gan: Yr Arolygiaeth Gynllunio.
Cyfeiriad Cyswllt Busnes:
The Planning Inspectorate.
Temple Quay House
2 The Square
Temple Quay
Bristol BS1 6PN
Rheolwr Data: Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog
Ni chynhelir gwefannau y gellir cael mynediad iddynt o "wefannau cysylltiedig"
o fewn gwefannau'r Arolygiaeth Gynllunio uchod gan yr Arolygiaeth Gynllunio,
felly nis cwmpesir gan y polisi hwn. Mae pob "gwefan gysylltiedig" yn
agor mewn ffenestr newydd.
Cyfrinachedd a Diogelwch
Dylai gohebwyr nodi y gallai pob gohebiaeth â'r Arolygiaeth Gynllunio,
Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog gael ei
gofnodi, ei fonitro a/neu ei recordio at ddibenion cyfreithlon.
Nid ydym yn rhoi i bobl sy'n ymweld â'n gwefan yr opsiwn o ddefnyddio
dull trosglwyddo diogel i anfon eu data personol atom. Rydym yn gweithredu
polisïau diogelwch, rheolau a mesurau technegol i ddiogelu'r data
personol sydd o dan ein rheolaeth rhag cael ei:
- ddarllen heb awdurdod
- defnyddio neu ei ddatgelu'n anghywir
- newid heb awdurdod
- dinistrio'n anghyfreithlon neu ei golli'n ddamweiniol
Mae pob un o'n staff sydd â mynediad i ddata personol, ac sy'n
gysylltiedig â'i brosesu, yn gorfod parchu cyfrinachedd data personol
unigolion.
Mae ein cynhaliwr gwefan yn cadw pob gwasanaethydd gwe ar rwydwaith preifat,
y ceir mynediad iddo trwy wal dân-fur a chyfieithiad o gyfeiriad
rhwydwaith, y gweinyddir pob peiriant trwy gysylltiadau diogel (ssh),
mae offeryn canfod ymyriadau wedi'i osod ar bob gwasanaethydd, mae'r broses
logio yn mynd i beiriant ar wahân a chedwir copïau cadw dyddiol
mewn adeilad ar wahân.
Darparu mynediad dienw ar gyfer ymwelwyr
Gallwch gael mynediad i hafan ein gwefan a phori trwy ein gwefannau heb
ddatgelu eich data personol.
Casglu gwybodaeth yn awtomatig
Nid ydym yn defnyddio cwcis i gasglu eich gwybodaeth o'r wefan(gwefannau).
Mae cwcis yn ddarnau o ddata a grëir pan fyddwch yn ymweld â
gwefan.
Mae "cwcis" yn neges a roddir i borwr gwefan gan wasanaethydd gwefan.
Mae'r porwr yn storio'r ffeil neges a elwir yn cookie.txt. Bob tro mae'r
porwr yn gofyn am dudalen gan y gwasanaethydd, anfonir y neges hon yn
ôl. Prif amcan cwci yw nodi defnyddwyr a phersonoli eu hymweliad
trwy addasu gwefannau ar eu cyfer er enghraifft trwy eu croesawu wrth
eu henw y tro nesaf y byddant yn ymweld â'r un wefan. Fel arfer
bydd gwefan sy'n defnyddio cwcis yn eich gwahodd i ddarparu gwybodaeth
bersonol megis eich enw, eich cyfeiriad e-bost a'ch diddordebau.
Nid yw'r wefan(gwefannau) yn storio nac yn dal gwybodaeth bersonol, y
cyfan a wnâ yw logio eich cyfeiriad IP a gydnabyddir yn awtomatig
gan y gwasanaethydd gwe.
Nid ydym yn logio eich data personol yn awtomatig nac yn cysylltu gwybodaeth
a gofnodwyd yn awtomatig trwy ddulliau eraill â data personol am
unigolion penodol.
Casglu data a nodi diben
- Rydym yn casglu'r data personol y gallwch ei gynnig tra'n defnyddio
ein gwasanaethau.
- Nid ydym yn casglu gwybodaeth am ein hymwelwyr o ffynonellau eraill,
megis cofnodion neu gyrff cyhoeddus, neu sefydliadau preifat.
- Os ydym am ddefnyddio eich data personol i ddiben newydd, ar wahân
i'r diben y'i darparwyd yn wreiddiol, yn ôl y gyfraith mae'n ofynnol
i ni ofyn i chi yn gyntaf.
Datgelu a dewis yr ymwelydd
Rydym yn sicrhau na ddatgelir eich data personol i sefydliadau nac awdurdodau
eraill oni fydd y gyfraith neu ryw reoliad arall yn mynnu ein bod yn gwneud
hynny.
Pa wybodaeth a gesglir gennym?
Rydym yn casglu gwahanol fathau o wybodaeth neu ddata personol y gallwch
ei gynnig tra'n defnyddio ein gwefan(nau). Bydd y wybodaeth hon yn amrywio
gan ddibynnu ar y tudalennau neu'r gwasanaethau a ddefnyddir.
- Adborth, gan gynnwys sylwadau a chwestiynau - (Ymholiadau ebost, gweler
- Cysylltwch â Ni
- Adborth ar y Wefan)
DS. Wrth anfon Ebost neu gysylltu ar y ffôn i ofyn am wybodaeth
neu gymorth, efallai y bydd angen i ni gysylltu ag Adran neu sefydliad
arall i geisio gwybodaeth i'ch helpu. Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw
ran o'ch gwybodaeth bersonol wrth ymdrin â'ch ymholiad, oni fyddwch
wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny.
- Gwybodaeth am y Defnydd a Wneir o'r Wefan - Ffeiliau cofnodion.
Mae ein cynhaliwr gwe Hyperlink yn crynhoi ffeiliau cofnodion gan bawb
sy'n ymweld â'n gwefannau, rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon
i newid diwyg y wefan a'r wybodaeth a geir y tu mewn iddi, yn seiliedig
ar y modd y mae pobl yn symud o'i hamgylch. Nid yw ffeiliau cofnodion
yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol, nac unrhyw wybodaeth am ba wefannau
eraill yr ydych wedi ymweld â hwy.
- Apeliadau Cynllunio a Ffurflenni Apêl.
Rydym yn ymrwymedig i weithio'n electronig, fodd bynnag, ar hyn o bryd
ni allwn dderbyn apeliadau na chynrychioliadau dros y Rhyngrwyd. Mae
hwn yn wasanaeth sy'n cael ei ddatblygu trwy Raglen
Y Porth Cynllunio .
Wrth benderfynu ar apêl, mae'r Arolygydd (neu'r Ysgrifennydd Gwladol)
yn derbyn amrywiaeth o wybodaeth bersonol gan nifer o ffynonellau, gan
gynnwys;
- y cais gwreiddiol, ynghyd ag unrhyw ddogfennau yn cefnogi'r cais neu'n
ei wrthwynebu;
- y ffurflen apêl ynghyd ag unrhyw ddogfennaeth bellach yn cefnogi'r
apêl neu'n ei gwrthwynebu;
- awdurdodau cynllunio lleol;
- chi eich hun.
Mae'r math o wybodaeth bersonol a ddarperir yn amrywiol ond mae'n cynnwys:
- manylion eich enw, eich cyfeiriad a'ch gwaith;
- gwybodaeth am eich iechyd
- gwybodaeth yn ymwneud â barn neu fwriadau a fynegwyd mewn perthynas
â chais cynllunio neu apêl gynllunio.
Yn unol â'r rhwymedigaethau statudol presennol, bydd y rhan fwyaf
o'r ddogfennaeth a dderbynnir ar gael i'r cyhoedd ac fe'i prosesir yn
unol â'r Ddeddf Diogelu Data. Byddwn:
- dim ond yn defnyddio'r wybodaeth i ymdrin â'r apêl gynllunio
berthnasol;
- ond yn cadw'r wybodaeth am cyhyd ag y bo'n rhesymol angenrheidiol.
Ar gyfer apeliadau cynllunio a gwblhawyd fe'u cedwir am 12 mis fel arfer,
er ein bod yn cadw copi o benderfyniad yr Arolygydd yn ddi-ben-draw.
Gall gwybodaeth bersonol ffurfio rhan o benderfyniad yr Arolygydd.
Eich cyfrifoldebau -
- dim ond os ydych yn fodlon iddi gael ei gwneud yn eiddo cyhoeddus
y dylech ddarparu gwybodaeth bersonol.
- peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol am drydydd parti (gan
gynnwys aelodau o'ch teulu) oni fyddwch wedi dweud wrth yr unigolyn
dan sylw ac mae'n fodlon iddi gael ei darparu.
- dwedwch wrthym cyn gynted ag y bo modd os bydd unrhyw ran o'r wybodaeth
bersonol a ddarparwyd gennych yn newid.
Eich hawliau i weld data personol
Er mwyn gofyn am gael gweld eich data personol defnyddiwch y
Ffurflen Cyrchu Gwrthrych ar-lein -
(Ffurf PDF
21Kb)
Ffurflen Cyrchu Gwrthrych ar-lein -
(Ffurf Word
74KB)
Codir tâl stadudol o £10. Bydd angen prawf adnabod arnoch.
Dychwelwch y ffurflen wedi'i chwblhau a thystiolaeth o bwy ydych gan ddefnyddio
dull postio diogel, nid trwy ebost.
Mae'n rhaid i ni ddarparu copi darllenadwy o'r data personol yr ydym yn
ei gadw amdanoch chi i chi o fewn 40 niwrnod.
Mae'n fuddiol i ni ac i chi ein bod yn dal data manwl gywir. Os yw'r data
yr ydym yn ei ddal amdanoch yn anghywir mewn unrhyw ffordd, gallwch fynnu
ein bod yn:
- dileu'r data
- cywiro neu'n diwygio'r data
- cwblhau'r data
Ar gyfer unrhyw ymholiad neu bryder ynghylch ein polisi preifatrwydd,
cysylltwch â'n Rheolwr Data trwy:
Ebost; alastair.grant@planning-inspectorate.gsi.gov.uk
Cyfeiriad Post:
The Planning Inspectorate
Customer Support Unit
Room 3/07
Temple Quay House
2 The Square
Temple Quay
Bristol
BS1 6PN
Ffôn: 0117 372 6372
Ffacs: 0117 372 8782
Ebost: enquiries@planning-inspectorate.gsi.gov.uk
Mae ffôns y llinell cymorth cwsmeriaid yn cael eu ateb rhwng 08:00
and 16:45 rhwng Dydd Llun a Gwener. O gwmpas yr oriau yma derbynnir negeseuon
ar ein peiriant ateb.
neu ein Rheolwr Data wrth:
Cyfeiriad Post:
The Data Manager
The Planning Inspectorate
Room 5/04
Temple Quay House
2, The Square
Bristol, BS1 6PN
Telephone - 0117 372 8922
Email: alastair.grant@planning-inspectorate.gsi.gov.uk
Anghytuno
Rydym yn ceisio sicrhau ein bod wedi datrys unrhyw faterion yn foddhaol,
fodd bynnag os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb gallwch gysylltu â:
The Information Commissioner
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Switsfwrdd: 01625 545 700
Ffacs: 01625 524 510
DX: 20819 Wilmslow
Gwefan: http://www.dataprotection.gov.uk/
e-bost: mail@dataprotection.gov.uk
Rhestr Termau
Porwr
Cymhwysiad meddalwedd addefnyddir i leoli ac arddangos tudalennau'r we.
Cwci
Mae "cwcis" yn neges a roddir i borwr gwefan gan wasanaethydd gwefan.
Mae'r porwr yn storio'r ffeil testun a elwir yn cookie.txt. Bob tro mae'r
porwr yn gofyn am dudalen gan y gwasanaethydd, anfonir y neges hon yn
ôl. Prif amcan cwci yw nodi defnyddwyr a phersonoli eu hymweliad
trwy addasu gwefannau ar eu cyfer er enghraifft trwy eu croesawu wrth
eu henw y tro nesaf y byddant yn ymweld â'r un wefan. Fel arfer
bydd gwefan sy'n defnyddio cwcis yn eich gwahodd i ddarparu gwybodaeth
bersonol megis eich enw, eich cyfeiriad e-bost a'ch diddordebau.
IP (Protocol y Rhyngrwyd)
Mae pob rhwydwaith sy'n gysylltiedig â'r Rhyngrwyd yn siarad IP,
y safon dechnegol sy'n caniatáu i ddata gael ei drosglwyddo rhwng
dwy ddyfais. Mae TCP/IP (Protocol Rheoli Trosglwyddo/Protocol
y Rhyngrwyd) yn gyfrifol am sicrhau y caiff y cyfryw negeseuon eu trosglwyddo
o'r naill gynhaliwr i'r llall ac y deëllir y negeseuon.
Cyfeiriad IP/PRh
Os ydych wedi'ch cysylltu â'r Rhyngrwyd mae gennych un, er enghraifft
efallai y bydd yn edrych rywbeth yn debyg i hyn 198.184.9
Gwasanaethydd y Wefan
Mae'n cyflwyno (darparu) tudalennau'r we i'ch cyfrifiadur.
Cysylltiadau Perthnasol
Mae pob un o'r cysylltiadau isod yn agor mewn ffenestr bori newydd.
Sut i edrych ar ddogfennau PDF
Gallwch edrych ar dogfennau PDF gan ddefnyddio
Acrobat Reader gan Adobe. Gallwxh lawrlwytho Acrobat Reader am ddim drwy gwefan Adobe. Edrychwch ar Access Adobe a am wybodaeth ar sut y gall bobl a anableddau gweledol gael y gorau or meddalwedd hon.
|